Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth 13/10/15 Ystafell Gynadledda C 18:00
Yn bresennol:
Suzy Davies (Cadeirydd) - SD
Craig Lawton (Ysgrifennydd) - CL
William Powell - WP
Russell George - RG
Ymddiheuriadau:
Rhodri Glyn Thomas
Bethan Jenkins
Cynigiodd WP bod SD yn dod yn Gadeirydd ffurfiol y Grŵp Trawsbleidiol.
Eiliwyd gan RG.
Cynigiodd WP bod CL yn dod yn Ysgrifennydd ffurfiol y Grŵp Trawsbleidiol.
Eiliwyd gan RG.
Cafwyd trafodaeth o ran cyrff a grwpiau y gallem fod yn dymuno eu gwahodd i gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol.
Trafodaeth am y pynciau y dymunir eu trafod yn y dyfodol.
Awgrymodd SD TAW o ran twristiaeth
Awgrymodd WP Gynlluniau Rheoli Cyrchfannau
Awgrymodd WP y posibilrwydd o gyd-gyfarfodydd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig gan fod y materion yr ymdrinnir â hwy / a drafodir yn gallu gorgyffwrdd o ran rhai pynciau.
Cytunodd SD a RG.
Rhoddodd SD y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp ynghylch newidiadau i Gynghrair Twristiaeth Cymru a bydd yn cysylltu â Chynghrair Twristiaeth Cymru a Chymdeithas Lletygarwch Prydain ynghylch cyfarfodydd y dyfodol.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.